PET(4)-11-12 : Monday 2 July 2012

P-04-364 : Fibre Optic for Rural Areas

 

Datganiad: Cynhwysiant Digidol/Cymunedau 2.0
Statement: Digital Inclusion/Communities 2.0

The Record

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): People’s lives are being transformed by their use of the internet: searching and applying for jobs, accessing public services, shopping—often with more choice and lower prices than on the high street—online banking, or just keeping in touch with friends and family. The pace at which technology is changing the way that our society and economy works is astonishing, so much so that in our modern society, the need to be digitally included is fast becoming a necessity.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae bywydau pobl yn cael eu trawsnewid gan eu defnydd o’r rhyngrwyd: drwy chwilio a gwneud cais am swyddi, defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, siopa—yn aml gan gael mwy o ddewis a phrisiau is na’r stryd fawr—bancio ar-lein, neu gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Mae’r cyflymder y mae technoleg yn newid y ffordd y mae ein cymdeithas a’n heconomi yn gweithio yn rhyfeddol, gymaint felly fel bod yr angen yn ein cymdeithas fodern i gael eich cynnwys yn ddigidol yn prysur ddod yn angenrheidiol.

Everyone should be able to benefit from using the latest digital technologies. This is a key social justice and equality issue that cuts across all areas of society, and one which we should all embrace. Yet in 2010, a third of the Welsh population—around 785,000 people—were not accessing the internet. Let us be clear what that means for individuals and families in Wales: they cannot apply for jobs that are increasingly only advertised online and require an e-mail application; they cannot save money by securing better deals on fuel bills and car insurance, which are often worth hundreds of pounds a year; and they cannot get their voice heard. Increasingly, the only way to make complaints is through the internet, and one of the main ways for individuals to influence Government is via e-petitions. People who are not accessing the internet cannot benefit from the convenience and simplicity of accessing online public services, such as those that allow them to renew their car tax or book a GP appointment. I am particularly concerned to ensure that digital proposals in the UK Government welfare reforms do not result in excluding some of the most disadvantaged people in Wales from these services.

Dylai pawb allu elwa ar ddefnyddio’r technolegau digidol diweddaraf. Mae hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb allweddol sy’n berthnasol i bob rhan o gymdeithas, a dylem oll ei groesawu. Fodd bynnag, yn 2010, nid oedd traean o boblogaeth Cymru—tua 785,000 o bobl—yn defnyddio’r rhyngrwyd. Gadewch inni fod yn glir ynghylch beth mae hynny’n ei olygu i unigolion a theuluoedd yng Nghymru: ni allant wneud cais am swyddi sydd yn gynyddol yn cael eu hysbysebu ar-lein yn unig ac y mae angen gwneud cais amdanynt drwy e-bost; ni allant arbed arian drwy gael bargeinion gwell ar filiau tanwydd ac yswiriant car, sy’n aml yn werth cannoedd o bunnoedd y flwyddyn; ac ni allant leisio’u barn. Yn gynyddol, yr unig ffordd i wneud cwynion yw drwy’r rhyngrwyd, ac un o’r prif ffyrdd y gall unigolion ddylanwadu ar y Llywodraeth yw drwy e-ddeisebau. Ni all pobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd elwa ar y cyfleustra a’r symlrwydd o gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus ar-lein, fel y rhai sy’n eu galluogi i adnewyddu eu treth car neu drefnu apwyntiad gyda meddyg teulu. Rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau na fydd y cynigion digidol yn niwygiadau lles Llywodraeth y DU yn arwain at eithrio rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru o’r gwasanaethau hyn.

The reasons why people are not digitally included are many and varied. Some do not see it as relevant to them, some lack the skills and trust to use the technology safely and confidently, and many simply cannot afford the equipment and services to be online. This Government is committed to reducing digital exclusion and the associated risk of increasing social and economic exclusion. Our digital inclusion framework identified that the majority of the digitally excluded in Wales are likely to be older people, the unemployed, residents of social housing, or disabled people. It is therefore logical that our digital inclusion activity is focused on these groups.

Mae nifer o resymau amrywiol pam nad yw pobl wedi’u cynnwys yn ddigidol. Nid yw rhai yn ystyried y peth yn berthnasol iddynt, nid oes gan rai’r sgiliau na’r ffydd i ddefnyddio’r dechnoleg yn ddiogel ac yn hyderus, ac mae llawer o bobl na allant fforddio’r offer a’r gwasanaethau y mae eu hangen i fod ar-lein. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i leihau allgáu digidol a’r risg gysylltiedig o gynyddu allgáu cymdeithasol ac economaidd. Canfu ein fframwaith cynhwysiant digidol fod mwyafrif y bobl sy’n cael eu hallgáu’n ddigidol yng Nghymru yn debygol o fod yn bobl hŷn, yn ddi-waith, yn drigolion tai cymdeithasol, neu’n bobl anabl. Felly, mae’n rhesymegol fod ein gweithgarwch ym maes cynhwysiant digidol yn canolbwyntio ar y grwpiau hynny.

We are working towards our 2015 target to reduce digital exclusion to 25% of the adult population. That means getting an additional 200,000 people online compared with the figure in 2010. There are already signs that we are making good progress. Indeed, the most recent Ofcom take-up figures for 2011 suggest a 7% decrease in exclusion to 29% since 2010. We will have an accurate picture of progress when the next national survey data comes out in September.

Rydym yn gweithio tuag at ein targed o leihau allgáu digidol i 25% o’r oedolion yn y boblogaeth erbyn 2015. Mae hynny’n golygu sicrhau bod 200,000 yn ychwanegol o bobl ar-lein o gymharu â’r ffigur yn 2010. Mae arwyddion eisoes ein bod yn gwneud cynnydd da. Yn wir, mae ffigurau mwyaf diweddar Ofcom ynghylch nifer y bobl a ddaeth ar-lein yn 2011 yn awgrymu y bu gostyngiad o 7% yn y lefel allgáu er 2010, i 29%. Bydd gennym ddarlun cywir o’r cynnydd a wnaed pan fydd data’r arolwg cenedlaethol nesaf yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi.

A fully digitally-included society has the potential to improve people’s lives and the communities in which they live. It can create economic opportunities, improve skills and offer more convenient access to services, including public services. Putting public services online can be an opportunity to engage more people, simplify services and reduce costs. However, we must recognise that access to online services will continue to represent a challenge for some. Those people will need the appropriate support, whether face-to-face, over the phone or through intermediaries, to ensure that those who most need access to services will be able to access them. Digital exclusion cannot be tackled in isolation and needs support across the public, private and third sectors. The Welsh Government approach is to align policies and plans, co-ordinate activities towards the common goal of digital inclusion, and to secure buy-in from a wide range of stakeholders across all sectors. As a Government, we will continue to ensure that our policies, strategies and initiatives—whether growth and prosperity, public service delivery, tackling poverty or independent living—align with our vision of a digitally-inclusive Wales.

Mae gan gymdeithas sy’n gwbl gynhwysol yn ddigidol y potensial i wella bywydau pobl a gwella’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Gall greu cyfleoedd economaidd, gwella sgiliau a chynnig mynediad mwy hwylus at wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus. Gall rhoi gwasanaethau cyhoeddus ar-lein fod yn gyfle i ymgysylltu â mwy o bobl, symleiddio gwasanaethau a lleihau costau. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod y bydd mynediad at wasanaethau ar-lein yn parhau i fod yn her i rai. Bydd angen y cymorth priodol ar y bobl hynny, boed wyneb-yn-wyneb, dros y ffôn neu drwy gyfryngwyr, i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf o angen mynediad at wasanaethau yn gallu cael mynediad atynt. Ni ellir mynd i’r afael ag allgau digidol ar ei ben ei hunac mae angen cymorth ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn hynny o beth. Dull Llywodraeth Cymru yw alinio polisïau a chynlluniau, cydgysylltu gweithgareddau tuag at y nod cyffredin o gynhwysiant digidol a sicrhau ymrwymiad ystod eang o randdeiliaid ar draws pob sector. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i sicrhau bod ein polisïau, strategaethau a mentrau— boed yn hyrwyddo twf a ffyniant, darparu gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael â thlodi neu fyw’n annibynnol—yn cyd-fynd â’n gweledigaeth o Gymru sy’n ddigidol gynhwysol yn.

The Government has supported many different and complementary areas of activity that encourage or help people to be online, including engagement through libraries, learning opportunities and volunteering. Key to achieving these has been the Communities 2.0 programme. It has helped many thousands of people in some of the most deprived areas of Wales to go online and start accessing the benefits and opportunities that so many of us take for granted. The programme, which has a further three years to run, has successfully linked with other campaigns and initiatives, such as the BBC First Click campaign, BT’s Get IT Together initiative, and Digital Day, part of Adult Learners’ Week. I have visited a number of projects over the last year, and each time I have been impressed by the positive impact that the internet can have on people’s lives, whether it is care home residents learning to use Skype to keep in touch with family, or somebody buying goods online for the first time—the sense of achievement and confidence they show is remarkable. That can then encourage them to do more online and enjoy even greater benefits. Just last week on Digital Day, as part of Adult Learners’ Week, I visited a project in Blackwood that is helping local housing association tenants—many of whom were unemployed—to learn more about how to use the internet, including how to search and apply for jobs online.

Mae’r Llywodraeth wedi cefnogi nifer o weithgareddau gwahanol a chyflenwol sy’n annog neu’n helpu pobl i fod ar-lein, gan gynnwys ymgysylltu trwy lyfrgelloedd, cyfleoedd dysgu a gwirfoddoli. Mae rhaglen Cymunedau 2.0 wedi bod yn hanfodol wrth gyflawni hyn. Mae’r rhaglen wedi helpu miloedd o bobl mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru i fynd ar-lein a dechrau cael mynediad at y manteision a’r cyfleoedd y mae cymaint ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Mae’r rhaglen, sydd â thair blynedd arall i redeg, wedi cysylltu’n llwyddiannus ag ymgyrchoedd a mentrau eraill, fel ymgyrch First Click y BBC, menter Get IT Together BT a’r Digital Day, rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion. Rwyf wedi ymweld â nifer o brosiectau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a phob tro, yr hyn sydd wedi cael argraff arnaf yw’r effaith gadarnhaol y gall y rhyngrwyd ei chael ar fywydau pobl, boed yn breswylwyr mewn cartref gofal yn dysgu sut mae defnyddio Skype i gadw mewn cysylltiad â theulu, neu rywun yn prynu nwyddau ar-lein am y tro cyntaf—mae’r ymdeimlad o gyflawniad a hyder y maent yn ei ddangos yn rhyfeddol. Gall hynny wedyn eu hannog i wneud mwy ar-lein ac elwa hyd yn oed yn fwy. Dim ond yr wythnos diwethaf ar Digital Day, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, bûm yn ymweld â phrosiect yn y Coed Duon sy’n helpu tenantiaid y gymdeithas dai leol—llawer ohonynt yn ddi-waith—i ddysgu mwy am sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd, gan gynnwys sut i chwilio am swyddi ar-lein a gwneud cais amdanynt.

Through the Communities 2.0 initiative, we have supported a pan-Wales project with Care and Repair Cymru whereby case workers assist people to get online in their homes. Communities 2.0 also recently supported Age Cymru’s Myfriends Online Week, which helped older people to make more use of social media. We also work closely with organisations such as Age Cymru and Disability Wales to increase internet take-up among their members, which helps to reduce isolation and assists independent living. We recognise the opportunities afforded by the digital age to boost the Welsh language by encouraging people to use Welsh in everyday life through new technology and social media. Communities 2.0 activities are delivered in the language of people’s choice and a number of dedicated Welsh-language initiatives are supported. The importance of volunteering in tackling digital inclusion is reflected in the joint initiative that Communities 2.0 and the Wales Council for Voluntary Action are taking to host a conference this autumn on volunteering in a digital age.

Drwy’r fenter Cymunedau 2.0, rydym wedi cefnogi prosiect ledled Cymru gyda Gofal a Thrwsio Cymru lle mae gweithwyr achos yn cynorthwyo pobl i fynd ar-lein yn eu cartrefi. Yn ddiweddar, bu Cymunedau 2.0 hefyd yn cefnogi Myfriends Online Week Age Cymru, a oedd yn helpu pobl hŷn i wneud mwy o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Age Cymru ac Anabledd Cymru i gynyddu’r defnydd o’r rhyngrwyd ymhlith eu haelodau, sy’n helpu i leihau unigrwydd ac yn cynorthwyo byw’n annibynnol. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd a gynigir gan yr oes ddigidol i roi hwb i’r iaith Gymraeg trwy annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd drwy dechnoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol. Caiff gweithgareddau Cymunedau 2.0 eu cynnig i bobl yn eu dewis iaith ac mae nifer o fentrau yn yr iaith Gymraeg yn benodol yn cael eu cefnogi. Mae pwysigrwydd gwirfoddoli o ran mynd i’r afael â chynhwysiant digidol yn cael ei adlewyrchu yn y fenter ar y cyd rhwng Cymunedau 2.0 a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnal cynhadledd yn yr hydref ar wirfoddoli mewn oes ddigidol.

This is a cross-cutting issue that needs to be mainstreamed across organisations in all sectors. The economic potential of more people being online is considerable. In an increasingly digital age, we need to do everything we can to ensure that Wales can fully reach its digital potential, while ensuring that people are not left behind. Simply put, I see this as a social necessity and an economic opportunity.

Mae hwn yn fater trawsbynciol y mae angen ei brif-ffrydio ar draws sefydliadau ym mhob sector. Mae potensial economaidd cael mwy o bobl ar-lein yn sylweddol. Mewn oes fwyfwy ddigidol, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall Cymru gyrraedd ei llawn botensial yn ddigidol, tra’n sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Yn syml, rwy’n gweld hyn fel anghenraid cymdeithasol a chyfle economaidd.